Ar gyfer pwy mae hyn?
Rydym am sicrhau bod Dangos yn cyrraedd yr amrywiaeth ehangaf posibl o weithwyr rheng flaen yng Nghymru. Mae hynny’n golygu pobl sydd mewn cysylltiad, fel rhan o’u gwaith arferol, ag unrhyw un y gall fod angen cymorth arno. Does dim gwahaniaeth a ydych yn weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr; os ydych yn gweld pobl sy’n byw heb bethau, gall Dangos eich helpu chi i’w helpu.
- Staff tai/digartrefedd
- Gweithwyr cymorth
- Staff/myfyrwyr gwasanaethau cymdeithasol
- Gwirfoddolwyr yn y trydydd sector
- Grwpiau teuluoedd/plant
- Ymwelwyr iechyd
- Cofrestryddion
- Gweithwyr iechyd meddwl cymunedol
- Pobl sy’n gweithio mewn canolfannau teuluoedd, fforymau gofalwyr, grwpiau cymorth, grwpiau ffoaduriaid
- Staff llyfrgelloedd
- Staff meddygfeydd
- Gweithwyr banciau bwyd
- … a llawer o rai eraill
Byddwn yn ceisio cysylltu â chynifer o’r bobl hyn a’u sefydliadau â phosibl ond ceisiwch ledaenu’r neges mor eang â phosibl.